Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol
Dydd Mawrth 9 Mehefin 2015
Ystafell Bwyllgora 4, Tŷ Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Drwy gyswllt fideo i Ysbyty Maelor Wrecsam
Yn bresennol: Caerdydd
Mark Isherwood AC (Cadeirydd)
Pip Ford, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi
Lynne Hughes, Cymdeithas MS Cymru
Ana Palazon, y Gymdeithas Strôc
David Murray, Cure Parkinson’s Trust
Rachel Williams, Parkinson’s UK
Megan Evans, Cydlynydd Cynghrair Niwrolegol Cymru
Ann Sivapatham, Epilepsy Action Cymru
David Maggs, Headway
Fiona Jenkins, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Harry Prankard, Parkinson’s UK
Harry Prankard, Parkinson’s UK
Jennifer Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Kate Skone, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Kate Steele, SHINE Cymru
Michelle Herbert, The Brain Tumour Charity
Miriam Wood, Cymorth ME MESIG
Jayne Crocker, SHINE Cymru
Ceri Dunstan, y Gymdeithas Strôc
Andrea Richards, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Ian Langfield, WHSSC
Steve Walford, Cleifion Ataxia De Cymru
Jean Francis, Cleifion Ataxia De Cymru
Cyswllt Wrecsam
Annette Morris, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Niwrowyddorau Gogledd Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Urtha Felda, Cymdeithas MS Cymru
Ymddiheuriadau Barbara Locke - Parkinson’s UK
Janet Finch-Saunders - AC
Marcus Longley, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
Maria Battle, BIP Caerdydd a’r Fro
Ruth Crowder, Coleg Therapyddion Galwedigaethol Cymru
Matthew Makin Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Jane Stein, Cymdeithas PSP
Carol Smith, MNDA
Carol McCuddon, Ataxia UK
Simon Thomas AC
Kelly Bevan, Child Brain Injury Trust
Raja Ahmed, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion
Llinos Wyn Parry, Y Gymdeithas Strôc
Ted Hill, Cymdeithas Polio Prydain
Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi
Cywirdeb - i gynnwys Karen Shepherd, Annette a Carol Smith ar y rhestr o’r bobl oedd yn bresennol.
Nodwyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Mawrth 2015 yn gofnod gwir a chywir o’r cyfarfod.
Gofynnodd Urtha Feldman am gynnydd yn erbyn camau gweithredu o’r cyfarfod blaenorol. Mae’r rhain ar y gweill.
Mynediad i gadeiriau olwyn - 2012-2015 - beth sydd wedi newid?
Cyflwynodd Kate Steele sy’n aelod o’r Bwrdd Ystum Corff a Symudedd yr eitem hon.
Safbwynt Defnyddwyr Gwasanaeth
Yn ystod gwanwyn 2012 cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad undydd ar wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru. Cydnabyddir bod cynnydd wedi’i wneud ers 2010 - yn enwedig o safbwynt rheoli a rheoli perfformiad mewnol ond nid oedd hyn o reidrwydd wedi arwain at welliannau o ran gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr presennol/y dyfodol.
Rhoddodd Jayne Crocker, sy’n ddefnyddiwr gwasanaeth SHINE Cymru ei safbwynt ar y gwasanaeth y mae wedi’i dderbyn, a disgrifiodd broblemau gyda chynnal a chadw cadeiriau yn ogystal â materion o ran amnewid rhannau sydd wedi torri neu wedi treulio.
Disgrifiodd Harry, sy’n defnyddio cadair olwyn oherwydd clefyd Parkinson, a’i wraig Sylvia Prankard, broblemau tebyg a brofwyd yn y Gogledd.
Y Bwrdd Partneriaeth Ystum Corff a Symudedd
Roedd Ian yn cydnabod y materion a brofwyd gan Harry a Sylvia a dywedodd y gallai’r rhain gael eu datrys.
Dywedodd Ian mai strwythur a phwrpas y Bwrdd Ystum Corff a Symudedd yw edrych ar berfformiad ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir a rhoi cyngor ar strategaeth gomisiynu. Mae cylch gorchwyl y Bwrdd wedi’u cymeradwyo gan y saith Bwrdd Iechyd. Mae’r Bwrdd yn cael trafferth cael cynrychiolaeth gan awdurdodau lleol a defnyddwyr gwasanaeth.
Mae gweithgor technegol a gweithgor rhanddeiliaid ar gyfer monitro’r gwasanaethau hyn yn ofalus i sicrhau defnydd priodol o ganllawiau Llywodraeth Cymru. Mae’r grŵp rhanddeiliaid yn cynnwys lleisiau defnyddwyr gwasanaethau o bob rhan o Gymru ac mae’n cael ei gadeirio gan Kate. Mae dogfen Saesneg Clir ar amserau aros yn cael ei datblygu gyda’r gweithgor rhanddeiliaid.
Safbwynt Darparwr Gwasanaethau
Disgrifiodd Dr Jenny Thomas y broses atgyfeirio i wasanaethau cadeiriau olwyn a dywedodd bod tua 200 o atgyfeiriadau yr wythnos gan dimau amlddisgyblaethol medrus.
O ran perfformiad, bu cynnydd o 31% yn y nifer o gadeiriau olwyn wedi’u pweru a ddosbarthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae 90% o gadeiriau olwyn safonol yn cael eu dosbarthu o fewn 21 diwrnod. Bu gostyngiadau yn narpariaeth y gwasanaeth oherwydd salwch a swyddi gwag er bod targedau pediatrig wedi cael eu bodloni o hyd. Gofynnodd Rachel Williams ynghylch cynllunio ar gyfer olyniaeth yn wyneb y gostyngiadau yn y ddarpariaeth, ac mae hyn yn cael ei ystyried.
Cwestiynau a dadl
Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynghylch y materion a amlygwyd gan y defnyddwyr gwasanaeth oedd yn bresennol a nodwyd nifer o bwyntiau pwysig:
· Y Groes Goch Brydeinig yn benthyg cadeiriau olwyn i’r Gwasanaeth Aelodau Artiffisial a Chyfarpar nad yw’n gallu eu darparu - Ian Langfield i edrych ar hyn. David Murray - mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn cymryd rhan er mwyn i weithio ar y cyd fod yn effeithiol. Croesawodd Ian Langfield y gwaith y gallai’r grŵp ei wneud yn hyn o beth.
· Ana Palazon - nid oes digon o gynrychiolaeth gan randdeiliaid ar y grŵp. Awgrymodd y dylid gwneud y broses ymgysylltu yn llai ffurfiol, er mwyn cael dull mwy hyblyg i bobl gymryd rhan a rhannu eu barn.
· Ana Palazon - holodd am y defnydd o’r broses gwyno fel modd o fonitro gwasanaeth da / gwael gan nodi na fydd pobl bob amser yn cwyno.
· Pip Ford - nododd nifer o faterion ynghylch y gwasanaeth a godwyd gan ffisiotherapyddion pediatrig, gan gynnwys pryderon ynghylch diffyg adolygu rheolaidd.
Sylwadau wrth gloi
Cytunodd y Grŵp ar nifer o gamau i’w datblygu o’r cyfarfod fel a ganlyn:
· Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn:
(a) Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cynnydd yn erbyn argymhellion o ymchwiliadau blaenorol i wasanaethau cadeiriau olwyn yng Nghymru ers 2012;
(b) Pa gamau sy’n cael eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu’n llawn fel partneriaid gweithredol yn y gwasanaethau ystum corff a symudedd.
· Ysgrifennu at gadeiryddion Pwyllgorau Craffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yr awdurdodau lleol i ofyn pa fesurau sy’n cael eu cymryd yn lleol i sicrhau bod adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn cymryd rhan lawn fel partneriaid gweithredol yn y gwasanaethau ystum corff a symudedd. Copi at Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol.
· Ystyried sut y gall Cynghrair Niwrolegol Cymru ymgysylltu â grŵp ehangach o randdeiliaid er mwyn cyfrannu barn defnyddwyr gwasanaeth i’r is-grŵp Rhanddeiliaid Ystum Corff a Symudedd.
Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol:
Dyddiad y cyfarfod nesaf yw 22 Medi 2015 am 6.30pm yn Ystafell Bwyllgor 4, y Senedd, Bae Caerdydd. Bydd cyswllt fideo i Ysbyty Maelor Wrecsam